Mae Mabon ap Gwynfor yn aelod Senedd Cymru dros etholaeth Dwyfor Meirionnydd. Mae’n byw ar y fferm deuluol yn y gogledd gyda’i wraig a phedwar o blant.

Mae Mabon wedi bod yn ymgyrchu dros heddwch ar hyd ei oes ac yn ymgyrchydd gwrth-ryfel. Ef yw llefarydd Plaid Cymru ar Dai, Cynllunio, Materion Gwledig, a gogledd Cymru.
Ar ôl cael ei ethol i’r Senedd ym mis Mai 2021 wynebodd Mabon lobïo trwm gan fusnesau sy’n gysylltiedig â’r sector niwclear a chefnogwyr y sector, a oedd am weld adweithydd niwclear newydd yn cael ei ddatblygu yn ei etholaeth.
Gofynnodd sawl cwestiwn iddynt ac fe gafodd addewid bob tro y byddent yn dod yn ôl gyda nodyn briffio i ateb y cwestiynau a godwyd. Ni ddaeth y nodiadau briffio hynny erioed. O ganlyniad, gwnaeth ei ymchwil ei hun i’r materion trwy gysylltu ag arbenigwyr byd-eang a gofyn am gyfarfodydd ac aeth ati i darllen papurau ymchwil, erthyglau a llyfrau gan arbenigwyr uchel eu parch yn y maes.
‘Going Nuclear’ yw penllanw’r ymchwil fanwl honno.
Prynwch eich copi yma – goingnuclear.net/buy-now